Lucozade - Proven to give you Edge
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
middle split
Nefyn United Reserves
Last Updated: 27/07/10 @ 08:51 (Players)
 
Search the Web:
Click Here
Sponsored By
Latest News
TEAM HISTORY
Nefyn Celts Tymor/Season 1932-33 (12/01/09)

Mae Nefyn yn ymddangos mewn cyngrhair am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1932-33. Ymuno ar Gyngrhair Bangor ar Cylch gyda wyth tim arall, sef:-

Nefyn Celts
Llechid Celts
Newborough FC
Menai Bridge Tigers
Llanrug United
Llanberis FC
Llanfairfechan Town
Llandegfan FC
Llandygai FC

Pawb yn chwarae ei gilydd gartref ac oddi-gartref. Sgwni faint or gloch roedd yr hogia yn cyfarfod ar Y Groes bore dydd Sadwrn adag honno i drafeilio i Llanfairfechan?
Tymor siomedig iwan ir hogian flwyddyn hon ac yn gorffen ar waelod y Gyngrhair hefo dim ond un buddigoliath ac un gem gyfartal ( Dim Gwyndaf a Chris oedd y Rheolwyr adag honno!!! )
a chyfanswm o dim ond tri pwynt.

Nefyn Celts Tymor 1933-34 (12/01/09)

Tymor newydd ir hogia ac y Gyngrhair wedi chwyddo i ddeg o dimau, sef:-

Menai Bridge Tigers
Llanberis FC
Llechid Celts
Newborough FC
Pwllheli FC
Trefor Athletic
Llanrug United
Llandegfan FC
Nefyn Celts
Caernarfon Conservatives

Tymor tipyn bach yn well, gorffen un or gwaelod gyda unarddeg pwynt, curo pump gem, cyfartal mewn un a cholli deuddeg. Un peth yn dda mi orffenwyd yn uwch nar Conservative Cofis!! Bloody hell be oedd yr hogia heini yn siarad am dan yn y dafarn ar ol y gem.

Nodyn bach arall am y tymor hwn..... Eifion Parry yn cofio mynd i weld Pwllheli yn chwarae y tymor hwn!!!!!!!!!!!!!!!

Nefyn Celts Tymor/Season 1934-35 (12/01/09)

Tymor arall ar gobeithion maen siwr o wella eto y tymor hwn, ond llawer or timau wedi newid yn y Gynghrair, y timau oedd yn cystadlu yw:-

Llanberis FC
Pwllheli FC
Trefor Athletic
Portdinorwic FC
Porthmadog
Menai Bridge Tigers
Llechid Celts
Llanrug United
Llandegai FC
Nefyn Celts

Siom fawr i phawb maen debyg gydar tim yn gorffen ar waelod y Gynhrhair a DIM pwynt o gwbwl, ia DIM ( Zero ) Mae yna son or adeg bod y Gol-Geidwad adag honno yn clymu y Labrador melyn tu ol ir gol bob gem, ond i ddim lles oherwydd ildiodd Gant a Deg o Goliau mewn Undeg Wyth gem y tymmor hwn. Chafodd o ddim y Dlws Chwaraewr y Flwyddyn!!
Pawb wedi cael llond ei boliau o bel droed ac maen debyg ir tim cael ei dynnu allan or Gyngrhair.

Nevin Celts Tymor/Season 1937-38 (12/01/09)

Ar ol dwy flynedd o ddistarwydd mae Nefyn o dan yr hen sillafiad Nevin yn ail - ymddangos mewn Cyngrhair. Tro hwn yn ymuno a un lleol sef Cyngrhair Lleyn ar Cylch.
Y Timau oedd yn cystadlu oedd:-

Criccieth Town
Pwllheli FC Res
Nevin Celts
Trefor Athletic
Sarn FC
RAF Penrhos
Llanbedrog FC
RAF Penrhos A

Da yw gweld enwau Llanbedrog ac Sarn yn y rhestr, maen rhaid bod y gemau lleol hein yn rhei ffyrnig iawn, enwedig y gemau yn erbyn y 'Fly Boys' ai mwstashis cyrliog, ar saesneg mawr crand.
Gorffen yn drydydd gyda Criccieth yn cyro y Gyngrhair yn hawdd iawn. Hefyd, fuaswn yn dweud bod y Labrador wedi rhoi goraidd hi oherwydd dim on ildio Tri Deg Pedwar o goliau wnaethwyd y Tymor hwn.

Nevin Celts Tymor/Season 1938-39 (12/01/09)

Timau yn tynnu allan a timau eraill yn cymeryd ei lle yn y Gyngrhair y tymor hwn.
Y timau tro yma yw:-

Criccieth Town
Nantlle Vale
Nevin Celts
Cookes United
Sarn FC
RAF Llandwrog A
RAF Llandwrog B
Pwllheli FC Res

Hwn yw y tymor diwethaf cyn torriad yr Ail Ryfel Byd, eto flwyddyn hon gorffen yn drydydd ond Criccieth yn curo am yr ail flwyddyn yn olynol.
Nantlle Vale yn dangos ei pennau mewn Cyngrhair am y tro cyntaf ( Dic Penygroes rhwbeth i wneud ar peth sgwni!!! )
Job berig mynd i Cookes i chwarae gem, dychmygwch rheolwr ei tim yn eich bygwth, dim cweir ar ol y gem ond pwysi o TNT wedi ei guddio yn y bws neu yn fagia yr hogia!!!

Nefyn United Tymor/Season 1945-46 (12/01/09)

Yr Ail Ryfel Byd ar fin dod i ben ac Nefyn yn ymuno fel yr ydym yn ei nabod dyddiay hyn fel Nefyn United i gystadlu unwaith eto yng Nghyngrair Bangor ar Cylch.
Yn cystadlu yn ei herbyn y tymor hwn oedd:-

Pwllheli British Legion
Nantlle Vale FC
Hunting Aviation Caernarfon
Llanberis Athletic
Portdinorwic FC
Trefor Athletic
Llanrug United
Nefyn United
Pencaenewydd FC

Maen rhaid bod ein chwaraewyr gorau yn dal dramor yn cwffio yn y Rhyfel!! oherwydd gorffen un or gwaelod, curo un gem, cyfartal mewn pump a cholli deg. Da yw gweld ymdrech Pencaenewydd i ffurfio tim, be oedd Mr Hunting yn meddwl oi drip i Pencae sgwni? Dau ' Strainer Posts 6inch' fel postiau a rhaff neilon fel y bar!! Wnaeth y Cofis hedfan ir gem o faus awyr Dinas Dinlle yn un o awyrenau Mr Hunting? Pwy a wyr.

Nefyn United Tymor/Season 1946-47 (00/00/00)

Tynnu allan o Gyngrhair Bangor ac ail ymuno ac Cyngrhair Lleun ar Cylch i gystadlu yn erbyn y timau canlynol:-

Tanygrisiau FC
Criccieth Town
Cookes United
CPD Porthmadog Res
Nefyn United
Harlech Town Res
Trefor Athletic
Abersoch Athletic
Garndolbenmaen FC
Pencaenewydd FC
RAF Penrhos

Un or tymorau gorau eto gydar hogia yn dal ei tir yn dda yn y Gyngrhair ac yn gorffen yn bumed, curo deg, cyfartal mewn chwech a dim on colli dwy gem. Hefyd sgorio chwech deg pump o goliau.
Ein ffrindiau o Cookes yn ei holau, beth oedd y sgor yno, curo ta cholli? Colli fuaswn i yn ddweud!
Y gwr bonheddig Mr Hunting wedi cael llond bol or Cofis, Abramovich oi ddydd yn ol y son! Gweld y timau oedd yn y Gyngrhair ac ar ol y profiad o chwarae yn Pencae doedd yna ddim chwant arno trafeilio i Garndolbenmaen ac dim dewis ond tynnu ei dim allan, enwedig pan glywodd bod y sefyllfa arianol yn dun iawn yn Garn a pan gytunwyd yn yr AGM bod Garn yn cael defnyddio rhywbeth syn dod i law i wneud goliau e.e. Jwmper, Cot, Par o Wellies ayb.

Nefyn United Tymor/Season 1947-48 (00/00/00)

Tymor arall yng Nghyngrhair Lleyn ar Cylch. Cystadlu y flwyddyn hon oedd:-

Abersoch Athletic
Nefyn United
Talsarnau FC
Cookes United
Harlech Town Res
Trefor Athletic
CPD Porthmadog Res
Criccieth Town Res
Llithfaen Rovers

Y tymor gorau eto, dod yn ail i Abersoch ac yn curo deg gem, cyfartal mewn un a cholli tair oedd yr ystidegau. Hwn roedd thymor diwethaf ir Gyngrhair hon, nid oes son wedyn amdani.
Nodwch yr enw The Mighty Llithfaen Rovers, maen siwr bod y byd pel droed wedi cael siglad reit dda pan gyhoeddwyd drwy Golomen bod yna dim yn cael ei sefydlu yno. Methwyd tair gem o ddechrau y tymor oherwydd aeth y Goloman ar goll yn y niwl ar ei ffordd i Bencadlus yr FAW. Timau yn cwyno ar ol bod yno yn chwarae am bod y bel braidd yn ddi siap yn galed ac yn ddu!! Rhywbeth i wneud a Tommi Glo sgwni!!

   
 
FOOTBALL HEADLINES
Premier League: Defender Pareja joins Spartak
The World Game 03:14
Ligue 1: Giuly 'very happy' at PSG
The World Game 03:14
Serie A: Robinho eyes Santos stay
The World Game 03:14
Flamini looking for action
The World Game 03:14
Harry's schedule fury
Sportal NZ 03:10
 
What do you think the main priorities of the reserves should be for season 2010/11
Do whatever is necessary to have a winning team
Blend of youth and potential alongside experience
Youth only
Support role for 1st team
Get ready for the new season - win a load of balls for your team!

Footballs, footballs, footballs! We've teamed up with Umbro to bring you the perfect boost for pre-season training - 10 Club Website footballs for your team!

 
What would you do to improve the next generation of British footballers?

Youth development has been at the top of the grassroots football agenda lately, so what would you do to help improve the next generation of British talent? Have your say!

 
ANGLESEY WEATHER FORECAST
Saturday Sunday Monday Tuesday
Max: 17°C
Min: 15°C
Max: 16°C
Min: 13°C
Max: 16°C
Min: 14°C
Max: 16°C
Min: 15°C
 
© clubwebsite.co.uk. All rights reserved. | Terms & Conditions | Privacy Statement
 
Close X